top of page
hydro-cymru1_edited.jpg

Mwy am Hydro.Cymru

O ddichonoldeb i ddylunio ac adeiladu

Am Ddyfodol Gwell

Mae gan Hydro.Cymru gyfoeth o brofiad. O helpu cymunedau a thirfeddianwyr i ddefnyddio’r adnoddau naturiol sydd ar gael ar garreg ein drws yma yng Nghymru i gynhyrchu trydan a gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.

​

Rydym yn fusnes bach yng ngogledd Cymru sy’n cynnig gwasanaeth dibynadwy, cyfeillgar a phroffesiynol i’ch helpu i gyflawni eich nodau adnewyddadwy. Gyda’r gallu a’r arbenigedd i fynd â chi drwy’r daith gyfan o’r dechrau i’r diwedd, cysylltwch â Hydro.Cymru am gyngor ac arweiniad ar eich project.

​

Rydym yn cynnig y gwasanaethau canlynol:

​

  • ymweliadau safle a dichonoldeb

  • cael caniatâd (caniatâd cynllunio, trwydded tynnu dŵr)

  • dylunio manwl

  • adeiladu a rheoli prosiectau

​

Cymerwch olwg ar rai o'r projectau rydym wedi bod yn rhan ohonynt.

Cynllun hydro cymunedol 100 KW 

Bu Hydro.Cymru yn rhan o'r camau dichonoldeb hyd at reoli'r project. Cynnig arweiniad a chyngor i'r grŵp cymunedol dan sylw a goruchwylio'r gwaith adeiladu a wnaed gan gontractwyr lleol. Daeth y cynllun yn weithredol ym mis Mehefin 2017.

Cynllun hydro preifat 50 KW 

Yn ymwneud o'r cychwyn cyntaf â chael yr holl ganiatâd angenrheidiol hyd at y gwaith adeiladu ei hun fel y prif gontractwr. Daeth y cynllun yn weithredol ym mis Ionawr 2022.

Cynllun hydro Fferm a Gwersyll Gwyliau
34 KW

Gweithio gyda thirfeddianwyr i ddylunio cynllun a fyddai'n gweithio iddyn nhw a'u busnes. Wedi cael pob caniatâd angenrheidiol a chwblhau'r adeiladu ar amser fel y prif gontractwr. Daeth y cynllun yn weithredol ym mis Tachwedd 2020.

Cynllun hydro 100 KW ar gyfer datblygwyr

Bu Hydro.Cymru yn rhan o'r camau cynnar o gael caniatâd a dylunio manwl. Roedd y datblygwr yn gontractwr sifil profiadol ac felly ymgymerodd â'r gwaith adeiladu. Roedd Hydro.Cymru yno i gefnogi’r prosiect yn ôl yr angen drwy gydol y cyfnod hwn. Ar ôl ei gwblhau, bu Hydro.Cymru wrthi eto, y tro hwn yn trefnu cytundebau i werthu’r trydan a chynyddu’r incwm i’r cwsmer.

Eisiau gwybod mwy?

Eich Dyfodol

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod sut y gallwch chi fel cymuned, busnes neu dirfeddiannwr helpu i greu dyfodol mwy cynaliadwy trwy gynlluniau ynni adnewyddadwy, cysylltwch â ni am gyngor.

Cynlluniau Solar

Yn ogystal â chynlluniau hydro, mae Hydro.Cymru hefyd wedi gweithio ar lawer o brosiectau solar. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.

Stoney River
bottom of page